Addysg y Cyfyngau Cymru - Mae Addysg y Cyfryngau Cymru yn cefnogi addysg y cyfryngau a delweddau symudol yng Nghymru trwy hyfforddi, digwyddiadau, cyhoeddiadau, projectau, ymchwil ac ymgynghori.
Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru - Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC) yw prif gorff ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar bob agwedd ar gwricwlwm yr ysgol, arholiadau, asesu a chymwysterau galwedigaethol.
CBAC - Cyd-bwyllgor Addysg Cymru - Consortiwm o awdurdodau addysg lleol sefydlwyd ym 1948, yw Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC). Mae Siop lyfrau, MEU Cymru, Uned yr Iaith Cymru a gwybodaeth am Arholiadau sy'dd ar eu Gwefan.
CCAUC - Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru - Cyngor sydd yn gyfrifol am gyllido colegau a sefydliadau addysg uwch a phrifysgolion yng Nghymru. Mae ganddo'r pwer hefyd i gyllido addysg uwch mewn colegau addysg bellach. Corff Cyhoeddus Noddedig y Cynulliad yw y Cyngor.
Coleg Digidol Cymru - Maer Coleg Digidol yn ddarpariaeth newydd a fydd yn cyfuno gwasanaethau, profiad a sgiliau addysgwyr, hyfforddwyr, byd busnes a diwydiant, S4C a BBC Cymru er mwyn cynnig gwasanaeth dysgu gydol-oes ardderchog i wylwyr Cymru.
Coleg y Bala - Canolfan Eglwys Bresbyteraidd Cymru sy'n cyflwyno y ffydd Gristnogol i ieuenctid a phlant mewn ffordd fywiog a chyfoes.
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru - Corff statudol, hunanreoleiddiol a phroffesiynol ar gyfer athrawon yng Nghymru, sy'n ceisio codi statws addysgu trwy gynnal a hyrwyddor safonau uchaf o arferion proffesiynol ac ymddygiad er lles athrawon, disgyblion ar cyhoedd.
learndirect Cymru - Gwefan Gymraeg learndirect, gyda newyddion, hanesion a chyngor a chymorth wedi'u paratoi'n arbennig i ddysgwyr yng Nghymru.
Rhieni dros Addysg Gymraeg - Cymdeithas sydd yn cynrychioli rhieni trwy Gymru i gyd ydy RhAG, a'i nod yw hybu addysg Gymraeg a sicrhau'r adnoddau gorau ar gyfer y garfan gynyddol o blant cyfrwng Cymraeg.
Safle Llythrennedd - Safle Llythrennedd Awdurdod Addysg Môn, Gwynedd a Conwy.